Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Economy, Infrastructure and Skills Committee

Ddatgarboneiddio trafnidiaeth

Decarbonisation of Transport

 

 

EIS(5)DT02

Ymateb gan CLILC

Evidence from WLGA

 

 

Cyflwyniad

 

Mae cludo nwyddau a phobl o amgylch Cymru yn hanfodol i’n model economaidd presennol a’n llesiant fel cenedl.  Mae’n rhan hollbwysig o’r rhan fwyaf o weithgarwch economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. 

 

Gyda chludiant yn cynrychioli 14% o allyriadau carbon Cymru, mae’n hollbwysig sicrhau bod y sector yn wydn, yn effeithlon ac yn garbon isel, mewn ffordd gost effeithiol, os ydym am gyflawni gofyniad Llywodraeth Cymru i leihau’r allyriadau carbon cyffredinol o 80% o leiaf (neu fwy) erbyn 2050.

 

Fodd bynnag, yn ôl ystadegau’r Adran Drafnidiaeth, ers 2010 mae swm y traffig ar ffyrdd ym Mhrydain wedi cynyddu 8%. Adran Trafnidiaeth – Datganiad Diogelwch ar y Ffyrdd 2019 Oes o Ddiogelwch ar y Ffyrdd. Fel y cydnabyddir gan Lywodraeth Cymru, y ffordd fwyaf effeithiol o leihau allyriadau CO2 yn y tymor byr fydd disodli teithiau mewn ceir gyda’r rhai sy’n defnyddio’r system trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol.  Felly, fel cenedl, rydym yn parhau i symud yn y cyfeiriad anghywir, hyd yn oed yn caniatáu ar gyfer effeithlonrwydd uwch cerbydau a’r cynnydd mewn cerbydau hybrid ac EV.

 

Adlewyrchir y tuedd hwn hefyd yn y data yn y ddogfen Ffyniant i bawb; dyfodol carbon isel ac nid yw cynnydd ar nifer o’r llwybrau hyn yn ddigon cyflym.

 

Felly, mae angen rhywfaint o syniadau radical pellach ynghylch sut i reoli’r galw er mwyn sicrhau llesiant a mynd i’r afael â’r argyfwng newid yn yr hinsawdd.  Gallai materion megis helpu i gefnogi a datblygu dulliau trafnidiaeth cynaliadwy fel rhan o’r economi sylfaenol yn ogystal â gwella hygyrchedd gwasanaethau lleol fod yn hollbwysig i’r drafodaeth hon.

 

Mae buddsoddiad sylweddol mewn meysydd megis teithio llesol a datblygu’r agenda creu lle gyda Pholisi Cynllunio Cymru wedi bod yn hollbwysig er mwyn pennu newid cyfeiriad ar draws y polisi trafnidiaeth.  Bydd yn cymryd amser i rai o’r newidiadau hyn ddwyn ffrwyth.

 

Mae amrywiaeth Cymru hefyd yn gwneud yr agenda hwn yn arbennig o anodd, yn arbennig yn nhermau rhoi dewisiadau amgen gwirioneddol i bobl yn hytrach na defnyddio ceir, yn benodol.  Felly, bydd creu ystod o bolisïau ar gyfer cyflawni’r materion amrywiol hyn bob amser yn heriol.  Mae’r gwaith y mae rhai Awdurdodau Lleol yn ei gwneud gyda Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru ar Drafnidiaeth Ymatebol Integredig (IRT) yn enghraifft dda o’r arloesedd y bydd ei angen.

 

Yr ymateb cyffredinol gan Awdurdodau Lleol i gynllun Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel yw bod hyn yn ddechrau da sy’n crynhoi amrediad o ymyriadau a all ddechrau mynd i’r afael â’r problemau o bosibl.  Y disgwyliad yw y bydd Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn datblygu’r polisïau hyn ac yn darparu’r manylion gofynnol.  Yn ei dro, bydd hyn yn gosod y cyd-destun ar gyfer strategaethau trafnidiaeth lleol a fydd yn nodi’r cynlluniau cyflawni manwl.

 

Ceir cydnabyddiaeth hefyd bod mentrau megis y rhaglen buddsoddi yn y rheilffyrdd a chamau gweithredu trafnidiaeth ranbarthol fel rhan o’r Fargen Ddinesig/ardaloedd twf yn datblygu’n gyflym.  Mae’r buddsoddiad sylweddol yn y rheilffyrdd (polisi 47) yn debygol o gael effaith fawr.  Fodd bynnag, mae’n anodd penderfynu o’r wybodaeth yn y ddogfen hon beth fydd maint yr effaith ac mae hyn yn parhau i fod yn broblem gyda’r rhan fwyaf o’r polisïau ar y cam hwn.  Beth yw budd cost y buddsoddiad hwn, o gymharu â’r meysydd eraill yn y polisi trafnidiaeth?

 

Yn gyffredinol, mae Awdurdodau Lleol wedi croesawu’r ymagwedd at drafnidiaeth a gyflwynir yn y ddogfen.  Y cwestiynau allweddol i’w hateb yw’r gallu i gyflawni rhai o’r targedau a’r broses o’u cyflawni.  Mae’r ddogfen yn nodi rhai o’r uchelgeisiau allweddol ond gwna hynny mewn iaith gyffredinol sy’n ei gwneud yn anodd asesu’r gallu i gyflawni’r targedau.  Y disgwyliad yw y bydd Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn darparu manylion penodol ar sut y caiff yr uchelgeisiau hyn eu cyflawni.

 

Mae hefyd yn bwysig nodi bod y datganiad o argyfwng hinsawdd yng Nghymru wedi’i wneud ar ôl i’r ddogfen hon gael ei chyhoeddi.  Mae nifer o awdurdodau lleol wedi gwneud hyn hefyd yn datgan argyfwng.  Mae gwyddoniaeth yr hinsawdd wedi’i disgrifio’n dda yn y gorffennol yn y Comisiwn Newid Hinsawdd ac felly mae’r amrediad o effeithiau yn hysbys yng Nghymru.  Yr hyn sy’n hollbwysig yw trafodaethau ac ymgysylltiad ehangach y cyhoedd ar y mater hwn er mwyn i asiantaethau cyhoeddus gael mwy o fandad i gyflawni’r camau gweithredu amrywiol sydd eu hangen yn awr i wneud gwahaniaeth. Nid oes amheuaeth y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd a dadleuol, fel y gwelwyd gyda’r drafodaeth am ffordd liniaru’r M4.

 

 

 

A yw’r targedau, polisïau a chynigion i leihau allyriadau trafnidiaeth (a nodwyd yn Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel) yn bosibl eu cyflawni ac yn ddigon uchelgeisiol?

 

Mae’r ddogfen yn un sobreiddiol o ran y cynnydd y mae Cymru’n ei wneud tuag at ei thargedau newid yn yr hinsawdd.  Yn amlwg, mae angen newid sylweddol er mwyn dychwelyd at y trywydd cywir gyda rhai o’r tafl-lwybrau angenrheidiol.  Nid yw’n glir eto o’r ddogfen hon a fydd yr amrediad o gamau gweithredu yn unig yn llwyddo i gyflawni’r newid sylweddol hwnnw.  Mae trafnidiaeth yn gwasanaethu diben ac nid yw’n ddiben ynddo’i hun a’r hyn sydd angen mwy o ystyriaeth yw sut i leihau’r galw am symudiad a galluogi’r newid cymdeithasol sydd ei angen.  Mae annog band eang yn un agwedd o hyn ond nid yw’n datrys y mater ac weithiau gall canlyniadau fel gweithio o adref a siopa o adref eu gwaethygu.

 

Mae’r rhestr o gamau gweithredu trafnidiaeth yn amrywiol a heriol.  Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi’u mynegi mewn iaith uchelgeisiol heb lawer o fanylion am sut y byddant yn cael eu cyflawni ac, mewn rhai achosion, sut y gellir eu cyflawni.  Fel y nodwyd, disgwylir i fanylion mwy manwl gael eu cyflwyno yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru ar raddfa’r effaith a ddisgwylir a sut y bydd yn cyflawni’r gostyngiad angenrheidiol i garbon.  Mae angen mwy o eglurder hefyd ynghylch y disgwyliadau ar bob sector er  mwyn cyflawni hyn a dealltwriaeth o’r costau cyfle posibl.

 

Mae angen clir i gydweithio a dull strategol at ddatgarboneiddio, fodd bynnag mae’n rhaid ystyried y gwahaniaethau economaidd a daearyddol unigol rhwng Awdurdodau Lleol, gan sicrhau nad oes dull ‘un ateb sy’n addas i bawb’ yn cael ei gynnig.

 

Mae awdurdodau gwledig wedi cwestiynu sut y gellir cyflawni’r polisi sy’n anelu at ddim allyriadau ar gyfer bysiau a cherbydau llogi preifat o fewn yr amserlen.  Fel y mae gwaith yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru yn dangos, mae’r seilwaith yn mynd y tu hwnt i’r pwyntiau gwefru i’r grid.  Y mater yma yw y bydd angen hyrwyddo amrediad o dechnolegau at wahanol ddibenion; er enghraifft, trafodir hydrogen yn aml yn nhermau cerbydau nwyddau trwm.  Unwaith eto, mae angen i’r llywodraeth fuddsoddi yn y seilwaith a darparu cymorth i’r cwmnïau bysiau sy’n profi anawsterau, er mwyn gwireddu hyn.  Hefyd, awgrymwyd defnyddio nwyon o gyfleusterau AD hefyd fel opsiwn.  Mae hyn yn pwysleisio’r mater, lle cafwyd nifer o opsiynau posibl, ond bod angen gwaith manwl ar ymarferoldeb pob un, pryd a lle i’w defnyddio, y seilwaith (e.e. grid, depos, mecanyddion/sgiliau) a buddsoddiad er mwyn gallu gwireddu hyn.

 

Bydd arbenigedd, gwybodaeth a chanllawiau yn hollbwysig hefyd.  Nid oes gan ddau ar hugain o awdurdodau lleol hyn ar hyn o bryd, a bydd camau gweithredu ar y cyd yn bwysig.

 

Un sylw arall yw y dylai’r dull o gyflawni canlyniadau carbon isel wneud mwy i annog cymunedau i gymryd cyfrifoldeb ar gyfer eu hallyriadau.  Mae hyn yn adlewyrchu trafodaethau ar draws nifer o feysydd gwasanaeth lle mae ymgynghoriad ac ymgysylltiad yn symud tuag at gyfranogiad, yn unol â’r Ddeddf Llesiant.  Yn amlwg, bydd angen ymdrin â hyn yn ofalus ond mae angen trafodaeth leol fwy gwybodus ar y materion hyn, ochr yn ochr â chreu atebion ar y cyd.  Bydd gan Fyrddau Gwasanaeth Cyhoeddus rôl yn dysgu o’r gwaith a wnaed yng Nghaerdydd a’r Fro ac ystyried sut y gallant, fel cyflogwyr mawr, lywio’r drafodaeth hon.  Mae nifer o ALl wedi datblygu’r broses ddigidol o gyflawni agweddau o wasanaethau ond efallai y bydd angen trafodaeth fwy radical arnom ynglŷn âchyflawni yn y gymuned.

 

Dylai rôl y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, nad yw wedi’i chyhoeddi eto, fod yn ddefnyddiol ar gyfer agweddau o hyn, gan bennu blaenoriaethau datblygu strategol mewn ffordd ofodol.  Felly, mae cyfraniad cynllunio defnydd o dir a lleoliad gwasanaethau cyhoeddus yn bwysig.  Mae’r patrymau presennol o dwf cyflogaeth yn canolbwyntio ar ôl-troed bychan iawn, sy’n arwain at symudiad llanw o gyflogeion, sy’n rhoi pwysau aruthrol ar ein rhwydweithiau trafnidiaeth.  Mae trenau yn rhy llawn yn aml (mewn un cyfeiriad yn unig), mae bysiau’n sownd mewn tagfeydd traffig a cheir preifat yw’r dewis diofyn ar gyfer mwyafrif llethol.

 

Er enghraifft, yng Nghaerdydd, nodir bod 100,000 o gymudwyr yn croesi eu ffin bob bore, 80,000 mewn ceir.

 

Er bod hyn yn wir, bydd y Metro yn cynnig ehangiad mawr i’r rheilffordd ar hyd coridor yr A470, tua 2022, bydd hyd yn oed yn dyblu’r defnydd o’r rheilffordd ond yn gyfwerth ag ychydig flynyddoedd o dwf yn y defnydd o geir – nid yw parhau gyda’r dull hwn yn gynaliadwy i’r tymor canolig heb ehangiad a buddsoddiad aruthrol mewn coridorau trafnidiaeth gyhoeddus newydd.

 

Mae cynllunio’r defnydd o dir yn fwy effeithiol yn cynnig ffordd ymlaen ac ar y cyd, y llywodraeth sy’n rheoli’r ysgogiadau ar y sector cyhoeddus (ad-)leoli; mae lleoli TfW ym Mhontypridd yn enghraifft wych o’r newid mewn strategaeth sydd ei angen  Mae gan drefi rhanbarthol eraill y potensial ar gyfer dull gweithredu tebyg, gan greu teithiau byrrach a llifau 2 ffordd ar y rheilffordd, a lleihau amseroedd teithiau ar fws, a gwneud y bws yn opsiwn ymarferol i gymudwyr.

 

Gan fod yn realistig, bydd y prif faes twf yn y dinasoedd a bydd angen buddsoddiad mewn cludiant torfol ar gyfer y rhanbarth ehangach, ond gallwn gydbwyso rhywfaint o hyn drwy fod yn fwy doeth gyda buddsoddiad yn y sector cyhoeddus - bydd hyn yn gweithredu fel catalydd i elfennau o’r sector preifat gyd-leoli.

 

 

 

 

A yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datgarboneiddio trafnidiaeth yn ddigon arloesol, yn benodol yn nhermau hyrwyddo technolegau newydd?

  

Dylai Llywodraeth Cymru barhau i ymdrechu i ddarparu’r gefnogaeth economaidd a busnes angenrheidiol er mwyn galluogi i dechnolegau arloesol ddatblygu yng Nghymru.  Er y gallai fod gan y sector cyhoeddus rôl yn annog technolegau newydd drwy gaffael a seilwaith, mae graddfa’r buddsoddiad a methiant y ddarpar farchnad yn golygu nad yw’n ddarbodus buddsoddi symiau sylweddol o arian cyhoeddus mewn technoleg newydd yn rhy gynnar.  Y sefyllfa bresennol yw bod ALl yn gorfod cwtogi gwasanaethau presennol, sy’n cynnwys y cymhorthdal bws, felly mae’n anodd dychmygu sut y gellir cyflawni hyn.  Mae’r mentrau ar y cyd gyda TfW i edrych ar wasanaethau bysiau sy’n ymateb i’r galw yn ceisio gwneud hyn drwy symud adnoddau yn hytrach na chyllidebau ychwanegol.  Mae’r model hwn yn un y bydd angen ei ddefnyddio mewn mannau eraill.

 

Felly, yn yr achos hwn, mae technolegau yn canolbwyntio ar wybodaeth a chyfathrebu yn hytrach na seilwaith cadarn.

 

Fel mae’r ddogfen yn esbonio, y flaenoriaeth yn y tymor byr yw cyflawni newid moddol i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol er mwyn cyflawni’r targedau.  Mae hyn hefyd yn creu budd posibl i lesiant corfforol a meddyliol, cysylltedd cymunedau ac ansawdd aer.  Felly, mae angen canfod beth yw’r budd cost pendant er mwyn penderfynu a fyddai’n well buddsoddi’r adnoddau cyfyngedig yn y tymor byr i hyrwyddo a chyflawni newid moddol yn hytrach na buddsoddi’n sylweddol mewn technoleg seilwaith caled, a allai fod yn ddiangen neu waethygu’r problemau mewn gwirionedd.  Mae risg y gallai hudoliaeth a chyffro technoleg newydd arwain at fuddsoddiadau cenedlaethol a lleol yn y meysydd anghywir, gan arwain at ostyngiadau llai i allyriadau CO2.  Ar bob lefel, dylid pwysleisio ar sicrhau’r elw gorau ar fuddsoddiad.  Os rhoddir arwydd clir i ALl bod y cynnydd presennol mewn cyllid Teithio Llesol yn rhaglen fuddsoddi hir dymor, yna gallant barhau i ddatblygu’r arbenigedd angenrheidiol.  Os oes gan ALl ddyraniadau cyllid cyfalaf dangosol am bum mlynedd, gallant raglennu’r gwaith yn llawer mwy effeithlon na sefyllfa lle byddent yn aml, ychydig fisoedd i mewn i’r flwyddyn pan fyddant wedi gorfod gwario’r gyllideb, yn cael cadarnhad yn dilyn proses wneud cais wastraffus.

 

Mae rhai ALl wedi codi’r defnydd o gerbydau awtonomaidd fel enghraifft dda lle mae angen gweithredoedd Llywodraeth Cymru gyda llywodraeth y DU er mwyn sicrhau'r defnydd mwyaf effeithiol.  Nodwyd technoleg hefyd fel dull o leihau’r angen i deithio, a soniwyd am glinigau pellennig cleifion allanol yn defnyddio adeiladau eraill y sector cyhoeddus mewn cymunedau fel enghraifft.  Unwaith eto, mae angen i Fyrddau Gwasanaeth Cyhoeddus ysgogi’r math hwn o agenda.

 

Mae’n hollbwysig sicrhau canlyniadau clir a nodwyd yn y strategaeth genedlaethol (nid atebion) ar y dechrau.  Mae cyflwyno mannau gwefru EV yn enghraifft dda.  Pe byddai pob ardal yn gweithredu eu syniadau eu hunain, mae yna risg o anghysondeb a/neu yrwyr yn gorfod perthyn i rwydweithiau lluosog wrth deithio ar hyd a lled Cymru.  Gall disgwyliadau cenedlaethol clir helpu i lywio’r sector preifat, sydd â’r adnoddau sydd eu hangen i wneud newidiadau ar raddfa.

 

Mae’n rhaid i’r pwyslais ar EV ystyried hefyd y posibilrwydd o ‘lamu dros’ y dechnoleg bresennol.  Mae ymchwil a buddsoddiad sylweddol mewn hydrogen a mathau eraill o danwyddau yn golygu y gallai cerbydau trydan ddod yn segur yn y tymor canolig.  Mae hyn yn arbennig o arwyddocaol i Gymru, lle mae topograffeg a chymunedau gwasgaredig yn golygu bod buddsoddi yn y seilwaith trydanol sydd ei angen ar gyfer gwefru EV hyd yn oed yn fwy costus a heriol o gymharu â rhannau eraill o’r DU.  Dylid cynnal dadansoddiad gofalus o’r budd o ran costau er mwyn ystyried hyn, ac eto mae’n pwysleisio’r angen am strategaeth sydd wedi’u hystyried yn ofalus ar gyfer gwefru EV.

 

Pa gamau gweithredu sydd eu hangen, a chan bwy, er mwyn cyflawni’r targedau, y polisïau a’r amcanion?

 

Mae pob cam gweithredu yn galw am ddulliau cyflawni, rolau a chyfrifoldebau ac asesiad o’r budd costau a ddisgwylir ar gyfer y lefel o fuddsoddiad sydd ei hangen.  Dylai Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Leol a phartneriaid gyflawni hyn ar y cyd, gyda rolau cyflawni ar gyfer y strwythurau rhanbarthol newydd wedi’u hymgorffori yn y dull hwn.

 

Yna dylai Cyllideb Llywodraeth Cymru adlewyrchu hyn yn nhermau’r blaenoriaethau buddsoddi a bennwyd ar draws yr holl feysydd cyllideb.  Er enghraifft, gallai buddsoddi mewn canolfannau rhagoriaeth meddygol mawr ac effeithlon wella canlyniadau iechyd i’r cleifion hynny, ond gallai olygu llawer mwy o deithiau, straen iechyd meddwl o dderbyn triniaeth bellennig ymhell oddi wrth gefnogaeth gymunedol, staff yn gorfod teithio mwy, wedi’u cydbwyso yn erbyn adeiladau mwy ynni effeithlon.  Mae hyn yn wir hefyd ar gyfer buddsoddi mewn addysg.  Mae angen gwneud mwy i ddeall effeithiau ehangach rhaglenni o’r fath yng ngoleuni’r Ddeddf Llesiant.

 

Mae’n bwysig gwybod beth yw goblygiadau’r camau gweithredu hyn o ran costau i lywodraeth leol, ar adeg pan mae’r gyllideb/setliad yn cael ei ddatblygu ac nid dim ond tybio y gellir canfod yr adnoddau.  Mae’r gostyngiad yn y defnydd o fysiau a chymhorthdal ALl ar gyfer gwasanaethau yn pwysleisio hyn.  Yn syml, nid yw’r adnoddau yn bodoli mwyach i barhau i ddarparu gwasanaethau yn y dull hwn.  Mae’r papur gwyn ar drafnidiaeth yn nodi rhai syniadau diddorol ar ddulliau gan gynnwys masnachfreinio ond heb yr adnoddau i gyflawni hyn mae’n peri pryder.  Gallai’r gwaith peilot ar systemau Trafnidiaeth Ymatebol Integredig ar draws 3 ardal ALl gyfeirio at system drafnidiaeth gyhoeddus sy’n fwy ymatebol i’r galw sy’n fwy hyblyg ac sy’n gallu cyflawni anghenion sy’n newid.  Y dull hwn o gyd-gynhyrchu atebion rhwng Llywodraeth Leol, cymunedau a Llywodraeth Leol yw’r unig ffordd synhwyrol ymlaen, o ystyried y cyfyngiadau enfawr ar adnoddau a’r gofynion polisi fythol gynyddol ar lywodraeth leol.

 

Mae’n anochel y bydd y sector preifat yn chwarae rôl bwysig o ran cyflawni’r targedau, yn arbennig wrth ystyried y buddsoddiad yn y dechnoleg a’r seilwaith sydd eu hangen.  Fodd bynnag, mae’n rhaid rheoli’r berthynas hon yn ofalus, ac mae angen i Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol sicrhau eu bod yn sicrhau’r elw mwyaf ar eu buddsoddiad.  Un enghraifft o hyn yw’r buddsoddiad arfaethedig yn y seilwaith gwefru EV lle gallai fod gan Awdurdodau Lleol, o’i wneud yn gywir, y potensial i dderbyn incwm o gontractau gyda chwmnïau preifat, neu’n uniongyrchol gan ddefnyddwyr gwefru.  Unwaith eto, mae angen ystyried y cyfle i ddefnyddio arbedion maint a bydd cydweithio rhwng Awdurdodau Lleol, partneriaid a Llywodraeth Cymru yn bwysig yn hyn o beth.  Bydd ymgysylltu gyda phrifysgolion ac ymchwil hefyd yn hollbwysig, nid yn unig drwy ddatblygiad technoleg, ond hefyd drwy ymchwil i newid ymddygiad.

  

Sut y dylai Strategaeth Drafnidiaeth newydd Cymru adlewyrchu’r camau gweithredu sydd eu hangen i ddatgarboneiddio trafnidiaeth.

 

Mae’n rhaid i Strategaeth Drafnidiaeth Cymru wneud datganiad clir iawn bod yr argyfwng newid yn yr hinsawdd a lleihau carbon yn ystyriaethau sylfaenol sydd wedi llywio’r strategaeth a bydd yn hysbysu pob gweithgarwch dilynol.  Mae’r strategaeth yn cael ei datblygu yng ngoleuni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a nodau datgarboneiddio/SMNR Deddf yr Amgylchedd.

 

Mae pob cam gweithredu yn galw am ddulliau cyflawni, rolau a chyfrifoldebau ac asesiad o’r budd costau a ddisgwylir ar gyfer y lefel o fuddsoddiad sydd ei hangen.  Dylid cyflwyno hyn yn y Strategaeth Drafnidiaeth ond mae angen ei adlewyrchu hefyd ar draws nifer o feysydd portffolio.  Dylai fod yn ofynnol i bob maes polisi ddangos sut mae penderfyniadau cyllideb wedi adlewyrchu’r angen i leihau teithio a symudiad, ac eithrio drwy deithio llesol.  Ni ddylid gwneud unrhyw fuddsoddiadau sydd wedi cael effaith system garbon gyfan net negyddol ar Gymru, oni ellir dangos bod hyn wedi creu budd enfawr ar draws amrediad o nodau Llesiant.  Dylid rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i Aelodau Cynulliad i adolygu cynlluniau gwariant Gweinidogion, fel rhan o’r broses o bennu cyllideb ac i fonitro cynnydd dros amser.  Dylid darparu’r wybodaeth hon yng nghyd-destun sicrhau bod gwariant yn canolbwyntio ar y meysydd a fydd yn cyflawni’r gostyngiadau carbon mwyaf, yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael.  

 

Dylai unrhyw agwedd ar bolisi, sy’n galw am symudiad pobl neu nwyddau, ystyried goblygiadau trafnidiaeth a charbon unrhyw newidiadau polisi a cheisio lleihau’r gostyngiadau mwyaf.

 

Mae angen rhoi mwy o ystyriaeth i benderfynu sut y gall Cyfranogiad Cymunedol, drwy lywodraeth leol ac eraill, helpu i gyd-gynhyrchu’r amrediad o atebion sydd eu hangen mewn gwahanol amgylchiadau ar hyd a lled Cymru.  Dylid darparu cylch gwaith i Awdurdodau Trafnidiaeth Rhanbarthol i ddatblygu hyn, ochr yn ochr â chyflwyniad rhagosodiadau 20mya, mwy o fuddsoddiad a mwy o ddefnydd o deithio llesol a mentrau sy’n cynnwys gwahardd parcio ar balmentydd.

 

Yn fwy sylfaenol, mae’n rhaid i’r ffordd y rydym yn cynllunio, datblygu a thyfu fel cenedl roi opsiwn gwirioneddol i’n dinasyddion o’r mudiad carbon isel, yn hytrach na gorfod dibynnu ar y patrymau teithio anghynaladwy presennol.  Mae’n amlwg bod angen newid ymddygiad teithio er mwyn cyflawni ymrwymiadau datgarboneiddio uchelgeisiol Cymru, ac ni fydd dim ond lleihau ôl-troed carbon dulliau trafnidiaeth presennol yn unig yn anrhydeddu’r rhain.